Mae ‘Talwrn’ yn gynghrair o sefydliadau amrywiol yn y sector gwirfoddol gyda’u dibenion unigol eu hunain sy’n cynorthwyo pobl a chymunedau yng Nghymru. Maent wedi dod at ei gilydd i ddatblygu gwybodaeth a chreu ffyrdd o gydweithio a chydgynhyrchu gwaith. Mae’r gynghrair yn gweithio i herio ei gilydd, darparu cymorth a chyngor, datblygu prosiectau newydd, galluogi dysgu a llywio’r sector gwirfoddol cyfan. Mae aelodau Talwrn o’r farn bod gan y sector gwirfoddol, drwy optimeiddio ac adeiladu ar ei asedau ar y cyd, y potensial i ddod yn llais cryf, annibynnol yng Nghymru ac yn gatalydd mwy effeithiol ar gyfer newid cymdeithasol. Mae Talwrn yn canolbwyntio ar adeiladu gwaith cynaliadwy; dod o hyd i ffyrdd i gymunedau ac unigolion gynhyrchu eu hadnoddau a’u hincwm eu hunain drwy ddull seiliedig ar asedau, a llywio polisi gwrthdlodi. Mae Talwrn yn ceisio adeiladu gallu ac adnoddau unigol a chymunedol drwy ganolbwyntio ar dair thema allweddol:
- grymuso: sefydiadau gwirfoddol Cymru yn gweithio gydag unigolion, teuluoedd a chymunedau
- menter: adeiladu mentrau cymdeithasol hunangynhaliol a hyrwyddo menter bersonol a chymunedol
- effeithiolrwydd y sector gwirfoddol: adeiladu gallu ac adnoddau sefydliadau gwirfoddol i ddiwallu anghenion.
Mae Talwrn yn ceisio defnyddio tystiolaeth o’r hyn sydd wedi gweithio’n effeithiol y tu mewn i Gymru a’r tu allan iddi, ac adeiladau ar hyn, i sefydlu modelau effeithlon ar gyfer meithrin gallu ac adnoddau o fewn cymunedau a’r sector gwirfoddol. Mae’r pwyslais ar sut y gall y sector gwirfoddol gynorthwyo pobl i ddeall y materion y maent yn eu hwynebu ac yn y pen draw gweithredu i wneud newidiadau i’w bywydau a’r gymuned gyfan.
Gweithdai i’w cynnal
- Gwerthuso – hunanwerthuso, mapio canlyniadau, cyflwyno gwaith
- Mentrau cymdeithasol/cymunedol – ffactorau llwyddiant allweddol. Yr hyn sy’n gweithio a’r hyn nad yw’n gweithio
- Arweinyddiaeth a chynaliadwyedd – beth yw ystyr hyn? Beth yw nodweddion sefydliadau sy’n gynaliadwy?
- Cyfathrebu – trosglwyddo’r neges, datblygu enw da’r sector
- Gwaith seiliedig ar asedau – cydgynhyrchu, ad-drefnu llywodraeth leol, sut gall pobl reoli’r hyn sy’n digwydd yn eu cymuned
- Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant a’r goblygiadau yn y sector gwirfoddol
Cyfarfodydd gweithdai â thema (Dydd Gwener 11.30am – 4pm) Canolbarth Cymru
Mae’r cyfarfodydd yn agored i unrhyw un ddod iddynt – cysylltwch â talwrn@peopleandworkunit.org.uk
4 Mawrth – gwerthuso (o dan arweiniad Mark Richardson)
6 Mai – arweinyddiaeth, cynaliadwyedd a sgiliau (o dan arweiniad Sarah Stone)
1 Gorffennaf – gofal cymdeithasol a goblygiadau (o dan arweiniad Jenny O’Hara-Jakeway)
2 Medi – trosglwyddo asedau (o dan arweiniad Chris Johnes)
4 Tachwedd – cyfathrebu (o dan arweiniad Elwyn James)
6 Ionawr 2017 – menter (o dan arweiniad Alison Hill)
Bydd pob thema’n arwain at bapur trafod byr a fydd ar gael o’r wefan hon.
Talwrn Lleol
Bydd pob aelod Talwrn yn gweithio gyda Thalwrn lleol o tua 10 sefydliad. Gall hwn fod yn rhwydwaith presennol y mae rhywfaint o’r meddwl ynghylch Talwrn yn cael ei drafod a’i ddatblygu; gall fod yn ddarn lleol o waith a wneir gyda phartneriaid i ddatblygu meddwl o’r newydd; neu gall fod yn ddarn o ymchwil weithredu gyda phartneriaid.
I ddysgu rhagor am Dalwrn lleol cysylltwch â talwrn@peopleandworkunit.org.uk
Adolygiad gan gymheiriaid
Mae aelodau Talwrn yn cefnogi ei gilydd, aelodau o’r ‘Talyrnau lleol’ ehangach a sefydliadau gwirfoddol eraill mewn cynigion cyllido adolygu cymheiriaid. Mae’r adborth yn onest ac wedi’i fwriadu i helpu’r rhai sy’n ceisio adborth i wella eu cynigion a’u meysydd prosiect.
Mae Talwrn hefyd yn gallu cynnig rhywfaint o gymorth o ran helpu sefydliadau gwirfoddol ac elusennau i ymchwilio i’r cyd-destun a’r angen am brosiect neu ddarn o waith.
Os hoffech drafod cael cymorth gan Talwrn i ddatblygu prosiect neu gynnig cyllido cysylltwch â talwrn@peopleandworkunit.org.uk