Mae mesur effaith gymdeithasol yr un mor bwysig â’i chyflawni.

31/05/2016

 

Roeddwn ar y trên o Landudno wythnos diwethaf a chlywais ddau berson yn dadlau ynghylch a oes pwynt rhoi i elusen.  “Wrth gwrs y dylech.  Maent yn gwneud pethau da.  Dyna mae elusennau’n ei wneud.”

Ydyn nhw?  Pob un ohonynt?

A beth am fentrau cymdeithasol?  Rwyf wedi treulio’r rhan fwyaf o’m bywyd yn sefydlu a chynorthwyo mentrau cymdeithasol.  Ac yn ddiau maen nhw i gyd yn ceisio ‘gwneud pethau da’.  Ond faint sy’n cyflawni unrhyw fudd mewn gwirionedd?  Yn anecdotaidd, rydym i gyd yn gwybod am rywfaint o’r gwaith gwych sy’n cael ei wneud gan fentrau cymdeithasol ac elusennau.  Ond mae’r rhan fwyaf ohonom hefyd yn gwybod am sefydliadau lle rydym yn llai argyhoeddedig: o gyllid a allai, mae’n ymddangos, gael ei wario’n llawer gwell.

Y mis diwethaf roeddwn yn y Dwyrain Canol gydag elusen sy’n helpu pobl ifanc i gael gwaith.  Roedd eu rhaglenni hyfforddi yn cyflawni canlyniadau rhyfeddol.  90% o bobl ifanc yn cael swyddi mewn rhanbarth lle mae 25% o’r bobl ifanc yn ddi-waith.  Ac nid ydynt dim ond yn mesur nifer y bobl ifanc a hyfforddir (allbynnau).  Maent yn olrhain eu canlyniadau’n ofalus – nid dim ond pobl ifanc i mewn i waith ond faint a oedd mewn gwaith chwe mis a blwyddyn yn ddiweddarach.  Tystiolaeth glir o’u heffaith gymdeithasol, wedi’i mesur a’i chyfathrebu’n ofalus.

Ond ymchwiliwch ychydig yn fanylach i hyn ac nid wyf yn argyhoeddedig eu bod yn cyflawni unrhyw effaith gymdeithasol wirioneddol o gwbl.  Roedd eu llwyddiant yn cael ei fesur gan nifer y bobl ifanc a oedd yn cael swyddi a chadw’r swyddi hynny, felly gwnaeth eu proses ofalus o ddewis buddiolwr gymryd y bobl ifanc a oedd yn fwyaf tebygol o gael swyddi a’u cadw.  Mae’n debygol y byddai’r rhan fwyaf o’r bobl ifanc hynny wedi cael y swyddi beth bynnag.  Yr hyn elwir yn ddifuddiant.  Ac am nad oeddent wedi creu unrhyw swyddi newydd, am bob person ifanc a gafodd gymorth, roedd person arall a fyddai wedi cael y swydd honno heb gael y swydd.  Dadleoli.  Miliynau o bunnoedd o gymorth tramor i gyflawni bron dim byd.

Dyna pam mae mesur effaith mor bwysig â’i chyflawni.  Oherwydd os nad ydych wir yn ceisio ei mesur, nid ydych yn gwybod mewn gwirionedd a ydych yn cyflawni unrhyw fudd o gwbl, neu a ydych yn gwastraffu amser ac arian pawb.  Neu a ydych yn cyflawni effaith sydd mor dda fel y dylid buddsoddi ynddi a’i chynyddu ledled y wlad.

Yng Nghymru mae’r rhan fwyaf ohonom yn rhy brysur yn ceisio cyflawni effaith gymdeithasol a does dim amser i geisio ei mesur.  Mae’n ymddangos fel llawer o waith i ddweud wrthym am yr hyn rydym yn eithaf siŵr ein bod yn ei wybod eisoes.  Mae ein cyllidebau yn rhy fach, ein timau staff o dan ormod o bwysau.  Ac os ydym yn onest, mae llawer ohonom yn ofni y byddwn yn canfod ein bod yn gweithio bob awr o’r dydd am ddim byd.

Felly gadewch inni fod yn onest. A gadewch inni fod yn ddewr. A gadewch inni groesawu methiant fel rhan angenrheidiol o lwyddiant.  Gadewch inni fynd ati o ddifrif i geisio deall a yw’r hyn rydym yn ei wneud yn werth chweil, a ellid ei wella, a oes angen ei atal, neu a oes angen ei gynyddu

Mae’r gwefannau hyn yn lle da i ddechrau:

www.socialvalueuk.org

www.ces-vol.org.uk/tools-and-resources

http://outcomestoolkit.com

www.socialimpactscotland.org.uk

Os ydym yn poeni digon i ddeall ein heffaith mewn gwirionedd, ac os ydym yn ddigon dewr i siarad y gwirionedd, rhyngom gallem gyflawni cymaint yn fwy.   Yna gallem gyflawni rhai pethau da iawn.

Categories: Uncategorised

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *