Polisi Cwcis

Beth yw Cwcis

Mae cwci yn ffeil fach sy’n cael ei gosod ar ddisg galed eich cyfrifiadur i helpu i storio eich dewisiadau defnyddiwr, mewngofnodi a chyflyrau sesiwn, dadansoddi traffig ar y we neu’n gadael ichi wybod pan fyddwch yn ymweld â safle penodol. Mae cwcis yn caniatáu i gymwysiadau ar y we i ymateb ichi fel unigolyn. Gall y cymhwysiad ar y we deilwra ei weithrediadau i’ch anghenion, hoffterau a chas bethau drwy gasglu a chofio gwybodaeth am eich dewisiadau.

Yn gyffredinol, mae cwcis yn ein helpu ni i ddarparu gwefan well i chi, drwy ein galluogi i fonitro pa dudalennau sydd fwyaf defnyddiol a pha dudalennau nad ydynt yn ddefnyddiol. Nid yw cwci yn rhoi mynediad inni i’ch cyfrifiadur mewn unrhyw ffordd nac unrhyw wybodaeth amdanoch chi, heblaw am y data rydych yn dewis eu rhannu â ni.

Mae’r rhan fwyaf o borwyr ar y we yn derbyn cwcis yn awtomatig, ond fel arfer gallwch addasu eich porwr i wrthod cwcis os yw’n well gennych. Gall hyn eich atal rhag manteisio’n llawn ar y wefan.

 

Cwcis a Ddefnyddir ar y Safle Hwn

Gellir gosod y cwcis canlynol.

Penodol i system: Dilynwch y ddolen hon i gael rhagor o wybodaeth

Google Analytics: __utma, __utmb, __utmc, __utmz: Rydym yn defnyddio Google Analytics i fonitro’r defnydd o’n gwefan ac adrodd ar hynny, fel nifer yr ymwelwyr â’r safle, ymadroddion chwilio a ddefnyddir i ddod o hyd inni, tudalennau yr ymwelir â hwy ar y safle a’r amser a dreuliwyd ar y safle. Mae’r ystadegau a gesglir yn ofyniad angenrheidiol er mwyn inni ddarparu a gwella ein cynnyrch a’n gwasanaethau gwerth ychwanegol ac i aros yn gystadleuol. Nid yw’r cwcis yn adnabod defnyddwyr nac yn cysylltu eich cyfeiriad IP ag unrhyw wybodaeth y gellir ei hadnabod yn bersonol. Defnyddir y cwcis hyn i gasglu gwybodaeth am sut mae ymwelwyr yn defnyddio’n gwefan. Rydym yn defnyddio’r wybodaeth i lunio adroddiadau a’n helpu i wella’r wefan. Mae’r cwcis yn casglu gwybodaeth ddi-enw, gan gynnwys nifer y rhai sy’n mynd i’r wefan, o ble y daeth pobl i’r wefan, a’r tudalennau maent wedi edrych arnynt. Ceir polisi preifatrwydd Google yma http://www.google.com/analytics/learn/privacy.html

Cwcis Trydydd Parti

Mae ein gwefan yn defnyddio nodweddion gwefannau eraill a all adael cwci. Mae’r rhain yn gwcis trydydd parti ac nid ydym yn gallu eu rhwystro na’u hatal heb ddileu’r nodwedd o’n safle. I gael gwybodaeth am y cwcis hyn byddai angen ichi wirio gwefan y cychwynnwr er mwyn gael gwybod beth yw ei bolisi cwcis. Mae cwcis trydydd partïon sy’n cael eu gadael fel a ganlyn:

Facebook: Mae ein gwefan yn defnyddio swyddogaeth y botwm Hoffi ar Facebook er mwyn rhannu cynnwys. Os bydd defnyddiwr yn clicio ar y botwm Hoffi ac yn mewngofnodi i Facebook drwy ein gwefan, bydd Facebook yn gadael cwci ar gyfrifiadur y defnyddiwr. Dyma’r un broses â phan fydd y defnyddiwr yn mewngofnodi i Facebook yn uniongyrchol, neu’n clicio ar Hoffi ar unrhyw wefan arall. Mae polisi preifatrwydd Facebook wedi’i nodi yma http://www.facebook.com/about/privacy/ 

Sut i Analluogi Cwcis

Mae’r rhan fwyaf o borwyr gwe yn caniatáu peth rheolaeth o’r rhan fwyaf o gwcis drwy’r gosodiadau porwr. I gael mwy o wybodaeth am gwcis, gan gynnwys sut i weld pa gwcis sydd wedi’u gosod a sut i’w rheoli a’u dileu, ewch i www.allaboutcookies.org. I ddewis peidio â chael eich olrhain gan Google Analytics ar draws pob gwefan, ewch i http://tools.google.com/dlpage/gaoptout.