Polisi Preifatrwydd

Mae’r Polisi Preifatrwydd hwn yn nodi sut rydym yn defnyddio ac yn diogelu unrhyw wybodaeth a roddwch inni pan fyddwch yn defnyddio’r wefan hon.

Rydym yn ymrwymedig i sicrhau bod eich preifatrwydd yn cael ei ddiogelu. Os byddwn yn gofyn ichi ddarparu gwybodaeth benodol y gellir eich adnabod drwyddi pan fyddwch yn defnyddio’r wefan hon, yna gallwch fod yn sicr y bydd dim ond yn cael ei defnyddio yn unol â’r Datganiad Preifatrwydd hwn.

O bryd i’w gilydd efallai y byddwn yn newid y polisi hwn drwy ddiweddaru’r dudalen hon. Dylech wirio’r dudalen hon yn rheolaidd i sicrhau eich bod yn fodlon ar unrhyw newidiadau.

Yr hyn rydym yn ei gasglu

Efallai y byddwn yn casglu’r wybodaeth ganlynol:

  • Enw
  • Gwybodaeth gyswllt gan gynnwys cyfeiriad e-bost

Beth rydym yn ei wneud gyda’r wybodaeth a gasglwn

Mae angen y wybodaeth hon arnom am y rhesymau canlynol:-

  • I wella ein cynnyrch a’n gwasanaethau
  • Efallai y byddwn yn anfon e-bost hyrwyddo am gynnyrch newydd o bryd i’w gilydd, cynigion arbennig neu wybodaeth arall a all fod yn ddiddorol ichi drwy ddefnyddio’r cyfeiriad e-bost a ddarparwyd gennych. Byddwch yn cael y cyfle i optio allan o hyn pan fyddwch yn creu cyfrif
  • Cadw cofnodion mewnol
  • O bryd i’w gilydd, efallai y byddwn hefyd yn defnyddio’ch gwybodaeth i gysylltu â chi at ddibenion ymchwil i’r farchnad. Efallai y byddwn yn cysylltu â chi drwy e-bost, ffôn neu drwy’r post, ac efallai y byddwn yn defnyddio’r wybodaeth i addasu’r wefan yn ôl eich diddordebau.

Diogelwch

Rydym yn ymrwymedig i sicrhau bod eich gwybodaeth yn ddiogel. Er mwyn atal mynediad neu ddatgelu heb awdurdod rydym wedi gosod gweithdrefnau ffisegol, electronig a rheolaethol i amddiffyn a diogelu’r wybodaeth a gasglwn ar-lein.

Dolenni i wefannau eraill

Gall ein gwefan gynnwys dolenni i safleoedd eraill o ddiddordeb. Fodd bynnag, pan fyddwch wedi defnyddio’r dolenni hyn i adael ein safle, dylech nodi nad oes gennym unrhyw reolaeth dros y wefan arall honno. Felly, ni allwn fod yn gyfrifol am ddiogelwch a phreifatrwydd unrhyw wybodaeth y byddwch yn ei darparu tra’n ymweld â safleoedd o’r fath, am nad yw safleoedd o’r fath yn cael eu rheoli gan y Datganiad Preifatrwydd hwn. Dylech fod yn ofalus ac edrych ar y Datganiad Preifatrwydd sy’n berthnasol i’r wefan dan sylw.

Rheoli eich gwybodaeth bersonol

Ni fyddwn yn gwerthu, dosbarthu nac yn prydlesu eich gwybodaeth bersonol i drydydd partïon oni bai ein bod yn cael eich caniatâd neu ei bod yn ofynnol inni wneud hynny yn ôl y gyfraith. Efallai y byddwn yn defnyddio’ch gwybodaeth bersonol er mwyn anfon gwybodaeth hyrwyddo atoch am drydydd partïon y credwn y gall fod yn ddiddorol ichi os ydych yn dweud eich bod am i hyn ddigwydd. Gallwch ofyn am fanylion gwybodaeth bersonol a gedwir amdanoch o dan Ddeddf Diogelu Data 1998. Bydd ffi fach yn daladwy.  Os hoffech gopi o’r wybodaeth a gedwir amdanoch ysgrifennwch atom.

Os byddwch yn credu bod unrhyw wybodaeth rydym yn ei chadw amdanoch yn anghywir neu’n anghyflawn ysgrifennwch atom neu e-bostiwch ni cyn gynted â phosibl, yn y cyfeiriad uchod. Byddwn yn mynd ati ar unwaith i gywiro unrhyw wybodaeth sy’n anghywir.